Lleoliad:
Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 25 Ionawr 2021
Amser:
10.00 -
10.26
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11063
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 SL(5)717 – Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(5)702 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.2 SL(5)707 – Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.3 SL(5)721 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.4 SL(5)724 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael at Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.5 SL(5)725 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) (2021)
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.6 SL(5)723 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.7 SL(5)726 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.8 SL(5)703 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(5)719 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
5 Is-ddeddfwriaeth sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7
5.1 SL(5)722 – Cyfarwyddiadau Gofal Sylfaenol (Cynllun Imiwneiddio Brechlyn Rhydychen/AstraZeneca COVID-19) 2020
Trafododd y Pwyllgor y Cyfarwyddiadau a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
6 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
6.1 WS-30C(5)27 – Rheoliadau Cynhyrchion Organig (Dynodyddion Organig) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Llythyr gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Gweithdrefnau, Tŷ'r Cyffredin: Gweithdrefn Tŷ'r Cyffredin a'r cyfansoddiad tiriogaethol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Gweithdrefnau yn Nhŷ'r Cyffredin
7.2 Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Her gyfreithiol i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad gan Lywodraeth Cymru.
7.3 Llythyr gan y Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus a'r Gyfraith yng Nghymru, Comisiwn y Gyfraith: Papur ymgynghori ar ddyfodol tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus a'r Gyfraith yng Nghymru. Mewn sesiwn breifat, cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r llythyr a'r cynnig amgaeedig ynghylch yr ymgynghoriad.
7.4 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, a oedd yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Orchymyn arfaethedig Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021. Nododd hefyd fod Gorchymyn drafft Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021 bellach wedi'i osod.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd – trafod yr adroddiad drafft
Nododd y Pwyllgor y ffaith na chafwyd ymateb gan y Gweinidog hyd yma i'w lythyr dyddiedig 23 Rhagfyr 2020. Yn sgil hynny, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor Busnes ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad.
10 Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - y wybodaeth ddiweddaraf
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.